Beth yw Engage Cymru?
Engage Cymru
Cyfleoedd Cyfredol
Gwobrau Marsh am Ragoriaeth mewn Addysg Orielau 2019
Ydych chi’n adnabod rhywun sy’n gwneud gwaith rhagorol ym maes addysg orielau neu addysg a dysgu celf weledol?
Mae Engage, y Gymdeithas Genedlaethol er Addysg mewn Orielau, ac Ymddiriedolaeth Marsh Christian yn falch i gyhoeddi Gwobrau Marsh am Ragoriaeth mewn Addysg Orielau 2019. Mae’r Gwobrau, sy’n cydnabod ac yn dathlu cyflawniad y rheini sy’n gweithio ym maes dysgu ac addysg mewn cyd-destun oriel neu’r celfyddydau gweledol (hunangyflogedig, cyflogedig neu fel gwirfoddolwyr) yn y DU ac yn rhyngwladol, yn rhoi £500 i’r enillwyr ei wario ar eu datblygiad proffesiynol.
Eleni mae Engage ac Ymddiriedolaeth Marsh Christian yn lansio Gwobr flynyddol newydd i ddathlu cyflawniad oes cydweithiwr sy’n gweithio, neu sydd wedi gweithio ym maes dysgu neu addysg mewn neu ar ran orielau neu sefydliadau celfyddydau gweledol yn y DU. Bydd yr enillydd yn derbyn £500 i wario yn ôl eu dymuniad.
Dyddiad cau enwebiadau: Dydd Llun 9 Medi 2019, 10:00 am
Gweithdy Hyfforddi Gwerth Cymdeithasol: Deall sut i fesur costau, buddion a gwerth a grëir gan ymyriadau celfyddydau ac iechyd
Bydd y gweithdy hwn yn cynnig trosolwg o werth cymdeithasol (SROI) a pham ei fod yn bwysig mesur y costau, y buddion a’r gwerth a grëir gan ymyriadau; gyda chanllaw i’r camau ar gyfer cynnal dadansoddiad SROI yn defnyddio astudiaethau achos ac ymarferion grŵp rhyngweithiol. Caiff yr hyfforddiant ei gyflwyno gan Ned Hartfiel, Carys Jones ac Eira Winrow o Ganolfan Gwerth Cymdeithasol Prifysgol Bangor.
Datgloi Diwylliant: hawl i blant a phobl ifanc
Bydd Cynhadledd Engage 2019 yn edrych ar fanteision a heriau mynediad pobl ifanc at y celfyddydau, gan archwilio ymarfer gorau, partneriaethau a pholisïau yn y sector.
Bwrsariaethau Cynhadledd Engage Cymru
Mae tri lle ar gael gyda chyllid bwrsariaeth i ymarferwyr creadigol llawrydd o Gymru ym maes addysg orielau neu’r celfyddydau gweledol fynd i Gynhadledd Engage 2019. Bydd cyllid y fwrsariaeth yn talu am docyn i’r Gynhadledd a bydd hefyd yn cynnig hyd at £250 at gostau teithio/llety. Nid oes rhaid i ymgeiswyr fod yn aelodau cyfredol o Engage.
Rhoddir blaenoriaeth i aelodau o Engage, myfyrwyr, pobl na fyddent yn gallu dod fel arall, a’r rheini nad ydynt wedi derbyn bwrsariaeth gan Engage o’r blaen. Rydym ni’n croesawu’n arbennig geisiadau am fwrsariaethau gan ymgeiswyr anabl a Du, Asiaidd a Lleiafrifol Ethnig gan eu bod ar hyn o bryd heb gynrychiolaeth ddigonol ymhlith cynrychiolwyr cynhadledd Engage. Bydd disgwyl i’r sawl sy’n derbyn y bwrsariaethau fynychu’r Gynhadledd gyfan a llunio adroddiad adborth cryno a gaiff ei gyhoeddi ar wefan Engage Cymru www.engagecymru.org.uk
Pwy yw Engage Cymru?
Caiff engage Cymru ei redeg gan:
Angela Rogers, Cydlynydd Datblygu engage Cymru Ffôn: 01834 870121 / cymru@engage.org
Engage
Engage yw’r brif gymdeithas broffesiynol ym maes addysg orielau gydag o ddeutu 900 o aelodau yn y DU a thramor. Mae Engage yn elusen gofrestredig ac yn gwmni cyfyngedig drwy warant, yn Sefydliad Portffolio Cenedlaethol Cyngor Celfyddydau Lloegr ac yn derbyn cyllid gan Creative Scotland, Cyngor Celfyddydau Cymru a nifer o ymddiriedolaethau a sefydliadau.
