Beth yw engage Cymru?
engage Cymru yw prif sefydliad aelodaeth addysg oriel yng Nghymru, ac mae ganddo dros 70 o aelodau, gan
gynnwys addysgwyr oriel ac amgueddfa, athrawon, swyddogion awdurdodau lleol ac arlunwyr. Mae engage Cymru
yn hyrwyddo addysg oriel drwy eiriolaeth, cyfarfodydd grŵp rhanbarth rheolaidd, rhwydweithio a digwyddiadau
hyfforddi datblygiad proffesiynol, a thrwy ei brosiectau ymchwil.
Darganfyddwch fwy am aelodaeth yma
Pwy yw engage Cymru?
Cydlynydd engage Cymru, Angela Rogers
Ffôn: 01834 870121 (Dydd Llun – Dydd Iau) Symudol: 07773 856079
E-bost: cymru@engage.org.
Cynrychiolwyr rhanbarth
Eleri Wyn Evans, National Museums & Galleries of Wales, Cardiff
Honor Pedican, Wrexham Arts Centre, Wrexham
Aelodau gwirfoddol
Lisa Edgar, Ffotogallery, Cardiff
Gwenno Jones, Flintshire County Council, Mold
Helen Kozich, Oriel Davies Gallery, Newtown
Angela Rogers, engage Cymru, Tenby
Cath Sherrell, Aberystwyth Arts Centre, Aberystwyth
Mike Tooby, National Museums & Galleries of Wales, Cardiff
Ymchwil a gweithgaredd
Orielau'n cysylltu â Phobl Hŷn a Eithriwyd yn Gymdeithasol
Dros y flwyddyn ddiwethaf mae engage Cymru wedi gweithio mewn partneriaeth ag awdurdodau lleol ledled
Cymru ar nifer o brosiectau ymchwil gweithredol sy'n canolbwyntio ar gysylltu â phobl hŷn a eithriwyd
yn gymdeithasol. Datgelodd adroddiad mapio, a gynhaliwyd gan engage Cymru, mai dim ond 3% o'r orielau
yng Nghymru sydd yn gweithio'n rhagweithiol gyda phobl hŷn. Mewn ymateb i hyn, a'r Strategaeth ar gyfer
Pobl Hŷn yng Nghymru, cyflwynodd engage Cymru gyfres o ddigwyddiadau datblygiad proffesiynol sy'n
canolbwyntio ar bobl hŷn yn cysylltu ag orielau, gyda chwe phrosiect ymchwil gweithredol pellgyrhaeddol
mewn partneriaeth â'r awdurdodau lleol canlynol. Darllenwch fwy am y prosiectau fan yma.
Cyrraedd y Brig – Y Troedleoedd Cyntaf
Derbyniodd engage Cymru £24,950 i reoli pedwar lleoliad gwirfoddol ar gyfer pobl ifanc nad ydynt mewn
addysg, gwaith na hyfforddiant, mewn partneriaeth ag Oriel Myrddin, Caerfyrddin a Chanolfan Gelfyddydau
Aberystwyth. Mae'r ddau safle yn gweithio ochr yn ochr ag unedau cyfeirio a rhwydweithiau cymorth
ieuenctid i ddyfeisio rhaglenni gwaith perthnasol ar gyfer pobl ifanc, gan gynnwys curadu, gwaith
technegol, helpu i ddatblygu addysg oriel sy'n hwylus i ieuenctid. Darllenwch fwy fan
yma.
engage yn y Cyfnod Sylfaen
Cynhaliwyd rhaglen ymchwil yng Nghymru o 2005-2009 a archwiliodd i'r cyfraniad y gall orielau ac
arlunwyr ei wneud i gwricwlwm y Cyfnod Sylfaen newydd yng Nghymru. Ymunodd orielau, arlunwyr a
safleoedd blynyddoedd cynnar mewn awdurdodau lleol i ddatblygu prosiectau. Darllenwch fwy am y
rhaglen, a darllenwch y pecyn gwaith fan yma.
Opt for Art
Prif brosiect engage Cymru oedd Opt for Art, a ddechreuwyd yng Nghymru ar gyfer Cymru. O ganlyniad
i'r prosiect llwyddiannus pum mlynedd hwn daeth bron 20,000 o bobl ifanc i gysylltiad â chelf ac
artistiaid yng nghyd-destun yr oriel ac mewn ysgolion, gyda'r nod o'u hysbrydoli i ystyried Celf
fel dewis TGAU. Roedd y prosiect yn cynnwys o leiaf 18 gwahanol orielau a sefydliadau celf, a thros
100 o ysgolion gwahanol ar hyd a lled Cymru. Lansiwyd y cyhoeddiad Opt for Art gan Jenny Randerson,
cyn Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a'r Iaith Gymraeg yn yr Amgueddfa Genedlaethol, Caerdydd ym mis
Tachwedd 2002. Cliciwch yma am fwy o fanylion.
Arianwyr
Mae engage Cymru yn derbyn cymorth gan Gyngor Celfyddydau Cymru. Yn ogystal, rydym yn ddiolchgar
am arian partneriaeth prosiect gan awdurdodau lleol.
Hoffai engage Cymru gydnabod y cymorth mewn nwyddau mae'n ei dderbyn gan aelodau Grŵp Datblygu engage
Cymru, ynghyd ag aelodau ledled Cymru. Hefyd, mae engage Cymru yn cydnabod y cymorth mewn nwyddau mae'n ei
dderbyn gan swyddfa engage Llundain.
Cysylltwch â ni:
Cydlynydd engage Cymru:
Angela Rogers
34 Ffordd Dewing
Maenorbŷr
Sir Benfro
SA70 7TS
Ffôn: 01834 870121 (Dydd Llun - Iau) / 07773 856079
E-bost: cymru@engage.org
Gwefan: www.engagecymru.org.uk.
engage
E-bost: info@engage.org
Ffôn: +44 (0)20 7729 5858
Gwefan: www.engage.org
Rich Mix, 35 - 47 Bethnal Green Road, London E1 6LA
Brig y dudalen
