Member login:    Password:  GoReminder

engage Cymru

English     Cymraeg

engage Cymru

Orielau'n cysylltu â Phobl Hŷn a Eithriwyd yn Gymdeithasol

Prosiectau
2009-10
2010-11
2011-12

2009-2010

Prosiect Pontio'r Cenedlaethau gyda Chyngor Sir Penfro yn Oriel y Parc, Tyddews Prosiect Pontio'r Cenedlaethau gyda Chyngor Sir Penfro yn Oriel y Parc, Tyddews

Yn ystod 2009-10, gweithiodd engage Cymru mewn partneriaeth â awdurdodau lleol ledled Cymru ar nifer o brosiectau ymchwil gweithredol sy'n canolbwyntio ar gysylltu â phobl hŷn a eithriwyd yn gymdeithasol. Datgelodd adroddiad mapio yn 2009, a gynhaliwyd gan engage Cymru, mai dim ond 3% o'r orielau yng Nghymru sydd yn gweithio'n rhagweithiol gyda phobl hŷn. Mewn ymateb i hyn, a'r Strategaeth ar gyfer Pobl Hŷn yng Nghymru, cyflwynodd engage Cymru gyfres o ddigwyddiadau datblygiad proffesiynol sy'n canolbwyntio ar bobl hŷn yn cysylltu ag orielau, gyda chwe phrosiect ymchwil gweithredol pellgyrhaeddol mewn partneriaeth â'r awdurdodau lleol canlynol.

  • Gwynedd – Amgueddfa ac Oriel Gelf Bangor, arlunydd Eleri Jones a thrigolion Cartref Gofal Plas Maesincla, Caernarfon
  • Sir Gaerfyrddin - Oriel Myrddin, awdur/bardd John Bilsborough a thrigolion dau gartref gofal
  • Ceredigion - Canolfan Gelf Aberystwyth, arlunydd Becky Knight a thrigolion cartref gofal Bodlondeb
  • Rhondda Cynon Taf – Amgueddfa ac Oriel Gelf Cwm Cynon, arlunydd Louise Carey ac Uned Cwmni Da ar gyfer Pobl Hŷn
  • Abertawe – Oriel Gelf Glynn Vivian, arlunydd Maureen O'Kane a grŵp o unigolion 50+
  • Casnewydd - Amgueddfa ac Oriel Gelf Casnewydd, arlunydd Helen Clifford a phobl ifanc o'r Grŵp Dysgu Amgen, a grŵp o fenywod hŷn Pobl Dduon a Lleiafrifoedd Ethnig

Ariannwyd y prosiectau gan Ymddiriedolaeth Elusennol Stadiwm y Mileniwm, Cyngor Celfyddydau Cymru (arian Loteri) yn ogystal ag arian partneriaeth o'r awdurdodau lleol.

Cymerodd gofalwyr, arlunwyr a rhanddeiliaid eraill ran yn y prosiectau ymchwil hyn fel 'cyd-ymchwilwyr'.

Mae gan bob awdurdod lleol eu nodau eu hunain, ond o safbwynt engage y nodau cyffredinol eang oedd:

  • Cynyddu'r wybodaeth a'r ddealltwriaeth o gelfyddydau gweledol yng Nghymru o ran cynulleidfaoedd hŷn sydd, o bosibl, â phrofiad prin o gelf
  • Annog a datblygu creadigrwydd y cyfranogion
  • Hyrwyddo cyfleoedd dysgu gydol oes
  • Gwella hunan-barch, hyder a chynyddu rhyngweithio cymdeithasol
  • Helpu i frwydro yn erbyn eithrio cymdeithasol, unigrwydd a diflastod undonog

Cyflawnwyd pob un o'r nodau uchod, ac ymhlith y buddion penodol i gyfranogion mae:

  • Cynnydd mewn rhwydweithio cymdeithasol
  • Cynnydd mewn hyder
  • Datblygu diddordebau mewn creadigrwydd
  • Darganfod eu horiel leol fel adnodd gwerthfawr
  • Gwell sgiliau motor / deheurwydd (yn enwedig o safbwynt pobl â phroblemau symudedd)
  • Cynnydd mewn gwneud penderfyniadau a galluoedd dewis, yn enwedig pobl â dementia (roedd tri allan o chwe phrosiect yn gweithio gyda chyfranogion â dementia).

Canlyniadau annisgwyl:

  • Gofalwyr: mewn nifer o achosion roedd y gofalwyr yn hollol gysylltiedig â'r prosiectau, ac yn enwedig prosiect Gwynedd a arweiniodd un gofalwr i ddatblygu 'cert celf/art cart' yn dilyn y prosiect, sydd bellach yn cael ei ddefnyddio'n rheolaidd gan breswylwyr eraill yn eu hystafelloedd. Mae hwn yn profi'n boblogaidd. Roedd y gofalwr wrth ei fodd â'r prosiect gan ei fod yn ei alluogi i 'gyfathrebu â phreswylwyr ar sail anfeddygol neu sail angen'.
  • Teuluoedd: roedd aelodau teuluoedd preswylwyr cartrefi gofal wrth eu boddau i weld eu perthnasau'n cymryd rhan mewn gweithgareddau creadigol ac roeddent wedi eu rhyfeddu gan ansawdd y gwaith roeddent wedi eu cyflawni mewn ymateb i arddangosfeydd orielau.

2010-2011

Yn ystod 2010 a 2011, gweithiodd engage Cymru mewn partneriaeth â:

Cyngor Sir Ddinbych - Gwasanaethau'r Celfyddydau a'r Gwasanaethau Cymdeithasol; Llyfrgell a Chanolfan Celfyddydau Y Rhyl; Canolfan Grefft Rhuthun a chyfranogion hŷn sy'n dioddef o ddementia, ynghyd â'u gofalwyr teuluol. Jan Gardner oedd artist y prosiect.

Cyngor Sir y Fflint – y Gwasanaeth Diwylliant a Digwyddiadau; y Bartneriaeth Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Lles; preswylwyr Tai Gofal Ychwanegol Llys Eleanor a Theatr Clwyd. Felicity Owens oedd artist y prosiect.

Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful – Dysgu Gydol Oes, Mentro Allan, Amgueddfa ac Oriel Gelf Parc Cyfarthfa, Cymdeithas Alzheimers (cangen Merthyr Tudful). Ymhlith y cyfranogion roedd pobl hŷn a noddwyd gan Gymdeithas Alzheimers Merthyr, ynghyd â'u 'cyfeillion'. Alice Briggs oedd artist y prosiect.

Lawrlwythwch adroddiad llawn yr ymchwil fan hyn

2011-2012

Yn ystod 2011 a 2012, bydd engage Cymru yn parhau i ddatblygu arfer gorau mewn orielau gan gysylltu â phobl sy'n ynysig yn gymdeithasol, gyda phwyslais ar y celfyddydau ac iechyd. Byddwn yn gweithio mewn partneriaeth â Chyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam, Oriel Wrecsam, Celfyddydau Gogledd Cymru, Grŵp Rhanddeiliaid Iechyd a Lles. Bydd prosiectau'n canolbwyntio ar bobl hŷn mewn ysbytai. Ychwanegir mwy o fanylion i'r dudalen hon wrth i'r prosiect ddatblygu.

Yn ystod Gorffennaf 2011, darparwyd dwy seminar 'Orielau, y Celfyddydau ac Iechyd' gan engage Cymru, cliciwch yma am fwy o fanylion.

 

Brig y dudalen

Sponsors' logos

 

 

Join engage Now