Beth yw Engage Cymru?
Engage Cymru
Cyfleoedd Cyfredol
Dyfodol addysg orielau a’r celfyddydau gweledol
Ymunwch ag Engage ac Engage Scotland yn y digwyddiad datblygu proffesiynol dwys hwn i addysgwyr oriel a chelfyddydau gweledol lefel uwch ac ar ganol eu gyrfa, dan ofal Dundee Contemporary Arts (DCA), V&A Dundee a Hospitalfield, Arbroath
Grŵp Ardal De Cymru cyfarfod
Dydd Llun 9 Mawrth, 10:00am – 2:00pm, Nghanolfan Gelfyddydau Llantarnam Grange, Cwmbran
Grŵp Ardal Gogledd Cymru cyfarfod
Dydd Mercher 11 Mawrth, 10:00am – 1:00pm, Oriel Mostyn, Llandudno
Grŵp Ardal Canolbarth Cymru cyfarfod
Dydd Mercher 25 Mawrth 11:00am – 3:00pm, Peak (Celf yn y Mynyddoedd Duon), Crughywel, Powys
Mae’r cyfarfodydd Grŵp Ardal am ddim i aelodau, ac yn £5 i’r rheini nad ydynt yn aelodau. Bydd lluniaeth ysgafn ar gael.
Darganfyddwch fwy am ddod yn aelod Engage.
Pwy yw Engage Cymru?
Caiff engage Cymru ei redeg gan:
Angela Rogers, Cydlynydd Datblygu engage Cymru Ffôn: 01834 870121 / cymru@engage.org
Engage
Engage yw’r brif gymdeithas broffesiynol ym maes addysg orielau gydag o ddeutu 900 o aelodau yn y DU a thramor. Mae Engage yn elusen gofrestredig ac yn gwmni cyfyngedig drwy warant, yn Sefydliad Portffolio Cenedlaethol Cyngor Celfyddydau Lloegr ac yn derbyn cyllid gan Creative Scotland, Cyngor Celfyddydau Cymru a nifer o ymddiriedolaethau a sefydliadau.
