Mae Engage, y Gymdeithas Genedlaethol er Addysg mewn Orielau, yn dymuno penodi ymddiriedolwyr newydd i ymuno â’n Bwrdd sefydledig ac ymroddgar ym mis Tachwedd 2019. Mae’r Bwrdd, sy’n cyfarfod bob chwarter, yn cynnwys 15 o aelodau.
Hoffem dderbyn ceisiadau gan unigolion (gan gynnwys artistiaid gweithredol) sydd â gwybodaeth ac arbenigedd ym maes addysg celfyddydau gweledol ac addysg orielau. Yn benodol, rydym ni’n dymuno cael ceisiadau gan gydweithwyr yng Nghymru, yr Alban neu un o ranbarthau Lloegr (y tu allan i Lundain).
Engage
Engage yw’r brif gymdeithas broffesiynol ym maes addysg orielau gydag o ddeutu 900 o aelodau yn y DU a thramor. Mae Engage yn elusen gofrestredig ac yn gwmni cyfyngedig drwy warant, yn Sefydliad Portffolio Cenedlaethol Cyngor Celfyddydau Lloegr ac yn derbyn cyllid gan Creative Scotland, Cyngor Celfyddydau Cymru a nifer o ymddiriedolaethau a sefydliadau.
Cenhadaeth
Engage yw’r prif rwydwaith eiriolaeth a hyfforddiant ym maes addysg orielau
Gweledigaeth
Rydym ni’n cefnogi addysgwyr yn y celfyddydau, sefydliadau ac artistiaid i weithio gyda chymunedau mewn cyfnewidiadau dynamig, agored sy’n cynnig cyfle i bawb ddysgu a chael budd o’r celfyddydau.
Gwerthoedd
- Cymuned
- Arweinyddiaeth
- Cynwysoldeb
Ar hyn o bryd mae Engage yn gweithio ar draws pedair prif ffrwd:
- Eiriolaeth — cyflwyno’r achos i randdeiliaid a chyllidwyr ar ran addysg orielau a’r adnoddau sydd eu hangen i’w chyflenwi;
- Lledaenu — rhannu ymarfer addysg orielau gydag a thu hwnt i sectorau’r celfyddydau gweledol ac addysg yn y DU ac yn rhyngwladol;
- Datblygiad proffesiynol — cefnogi gweithwyr proffesiynol ym maes addysg orielau a chydweithwyr mewn meysydd cysylltiedig ar bob lefel o brofiad;
- Ymchwil a gweithgareddau — cefnogi datblygiad ymarfer oriel arloesol drwy weithio gydag orielau a lleoliadau celfyddydau gweledol ar draws y DU ac yn rhyngwladol
• Eiriolaeth – cyflwyno’r achos i randdeiliaid a chyllidwyr ar ran addysg orielau a’r adnoddau sydd eu hangen i’w chyflenwi;
• Lledaenu – rhannu ymarfer addysg orielau gydag a thu hwnt i sectorau’r celfyddydau gweledol ac addysg yn y DU ac yn rhyngwladol;
• Datblygiad proffesiynol – cefnogi gweithwyr proffesiynol ym maes addysg orielau a chydweithwyr mewn meysydd cysylltiedig ar bob lefel o brofiad;
• Ymchwil a gweithgareddau – cefnogi datblygiad ymarfer oriel arloesol drwy weithio gydag orielau a lleoliadau celfyddydau gweledol ar draws y DU ac yn rhyngwladol
I gael rhagor o wybodaeth am ein gwaith, ewch i engage.org/about
Rolau a chyfrifoldebau Bwrdd Engage
Rôl Bwrdd Engage yw:
- Sicrhau bod Engage yn gweithredu o fewn gofynion cyfreithiol ac ariannol cwmni a sefydliad elusennol;
- Bod yn gyfrifol am lywodraethu cyffredinol a chyfeiriad strategol Engage;
- Pennu polisïau;
- Cytuno ar y gyllideb flynyddol a phenderfynu ar unrhyw faterion sylweddol yn ymwneud ag adnoddau;
- Cymeradwyo’r cyfrifon blynyddol;
- Penodi staff uwch;
- Monitro perfformiad yn erbyn amcanion a thargedau a gytunir;
- Cynrychioli a hyrwyddo Engage yn allanol;
- Cynorthwyo gyda chodi arian o’r sectorau cyhoeddus a phreifat;
- Cydymffurfio â’r Memorandwm ac Erthyglau Cymdeithasu (dogfennau llywodraethu rheoleiddiol Engage).
Mae’r Bwrdd yn cynnwys aelodau sydd â chyfrifoldebau a rolau arbennig, a’r rolau allweddol yw Cadeirydd, Is-Gadeirydd a Thrysorydd.
Disgrifiad o Rôl Ymddiriedolwr
Dyletswyddau statudol pob ymddiriedolwr Engage yw:
- Sicrhau bod Engage yn cydymffurfio â’r ddogfen lywodraethu, cyfraith elusennau, cyfraith cwmnïau ac unrhyw ddeddfwriaeth neu reoliadau perthnasol eraill;
- Sicrhau bod Engage yn dilyn ei amcanion fel y’i diffinnir yn y ddogfen lywodraethu;
- Sicrhau bod Engage yn defnyddio ei adnoddau at ddibenion ei amcanion yn unig;
- Cyfrannu’n weithredol at rôl y Bwrdd yn cynnig arweiniad strategol cadarn i’r sefydliad, gosod polisïau cyffredinol, diffinio nodau, gosod targedau a gwerthuso perfformiad yn erbyn targedau a gytunir;
- Diogelu enw da a gwerthoedd Engage;
- Sicrhau gweinyddiaeth effeithiol ac effeithlon Engage;
- Sicrhau sefydlogrwydd ariannol Engage;
- Diogelu a rheoli eiddo Engage a sicrhau bod ei chronfeydd yn cael eu buddsoddi’n briodol;
- Penodi a monitro perfformiad y Cyfarwyddwr.
Yn ogystal â’r dyletswyddau statudol uchod, dylai pob aelod o’r bwrdd ddefnyddio unrhyw sgiliau, gwybodaeth neu brofiad penodol i helpu’r Bwrdd i wneud penderfyniadau cadarn.
Gallai hyn gynnwys:
- Craffu ar bapurau’r Bwrdd;
- Arwain trafodaethau sy’n effeithio ar Engage a’r sector;
- Canolbwyntio ar faterion allweddol;
- Darparu arweiniad ar fentrau newydd;
- Materion eraill lle mae gan yr ymddiriedolwr arbenigedd penodol.
Manyleb Ymddiriedolwr
- Ymrwymiad i Engage a’i waith;
- Parodrwydd i neilltuo amser ac arbenigedd;
- Profiad o ddatblygu gweledigaeth strategol;
- Barn dda, annibynnol;
- Y gallu i feddwl yn greadigol a rhannu syniadau;
- Parodrwydd i leisio barn;
- Deall a derbyn dyletswyddau, cyfrifoldebau ac atebolrwydd cyfreithiol ymddiriedolwr;
- Y gallu i barchu cyfrinachedd;
- Y gallu i weithio’n effeithiol fel aelod o dîm;
- Parodrwydd i weithredu fel llysgennad ar ran Engage;
- Cadw at saith egwyddor bywyd cyhoeddus Nolan: anhunanoldeb, uniondeb, gwrthrychedd, atebolrwydd, bod yn agored, gonestrwydd ac arweinyddiaeth.
Tymor y Penodiad
Penodir Ymddiriedolwyr Engage am gyfnod o dair blynedd. Gellir gwasanaethu am uchafswm o ddau dymor o dair blynedd.
Swydd wirfoddol yw hon ac nid oes cydnabyddiaeth. Fodd bynnag gellir talu costau teithio a chostau llety pan fo angen.
Sut i Ymgeisio Os hoffech chi drafod y rôl hon yn gyfrinachol, ebostiwch y Cyfarwyddwr, Jane Sillis: jane.sillis@engage.org.
Gwahoddir ymgeiswyr ar y rhestr fer i gyfarfod â chynrychiolwyr o’r Bwrdd yn ail hanner mis Medi neu ddechrau mis Hydref.